Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ebrill 2018
Amser:
09.32 -
11.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4832
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Huw David, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Susan Elsmore, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru David Street, ADSS Cymru Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC, David Rees AC a Neil Hamilton AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Huw David, Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; Y Cynghorydd Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, Cyngor Caerdydd; a Dave Street, Llywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar ei ymchwiliad i'r gost o ofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar ei ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio.
4.2 Cytunodd y Comisiynydd i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion pellach am y pwysau costau sy'n wynebu'r gwasanaethau cymdeithasol.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol.